Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                                     Diben y diwygiadau i Reoliadau 2017 a wneir gan reoliad 7 yw cywiro hepgoriadau cynharach mewn perthynas â’r cyrsiau a restrir yn rheoliad 5(1)(ea) o’r Rheoliadau hynny, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau o’r fath yn gallu cael cymorth at ffioedd.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                                     Mae’r Nodyn Esboniadol yn dweud yn gywir y bydd y benthyciad uwch at ffioedd yn gymwys i flynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae rheoliad 40 o Reoliadau 2018 yn cyfeirio at flynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi o ganlyniad i baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny. Mae hynny’n pennu, at ddibenion Rheoliadau 2018, ddyddiad penodol ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd drwy gyfeirio at y dyddiad y mae blwyddyn academaidd yn dechrau mewn gwirionedd. Yn achos blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar 1 Awst mewn gwirionedd, mae’r Rheoliadau’n barnu bod y flwyddyn academaidd yn dechrau ar 1 Medi.